YMCHWILIAD I FARGEINION DINESIG AC ECONOMÏAU RHANBARTHOL CYMRU
Ymateb gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (y Bwrdd Uchelgais)
Dros ddwy flynedd yn ôl, ymgymerodd Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ag ymchwiliad i Fargeinion Dinesig ac Economïau Rhanbarthol Cymru.
Bellach, mae'r pwyllgor yn ysgrifennu at arweinyddion y Bargeinion Dinesig/Rhanbarthol a roddodd dystiolaeth i'r ymchwiliad y llynedd, er mwyn cael gwybod pa gynnydd sydd wedi'i wneud yn eu rhanbarth ers yr ymchwiliad.
Dyma ddiweddariad ar ran y Bwrdd Uchelgais.
1. Cefndir
1.1. Mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn Gyd-bwyllgor sy'n cynnwys bob un o'r chwe Awdurdod Lleol yn y Gogledd, ynghyd â'r ddau Goleg, y ddwy Brifysgol a'r Sector Preifat.
1.2. Sefydlwyd y Bwrdd i gefnogi datblygu economi'r rhanbarth ac mae wedi rhoi pwyslais sylweddol ar gyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru yn llwyddiannus.
1.3. Mabwysiadodd y Bwrdd Uchelgais y "Weledigaeth ar gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru" ym mis Medi 2016. Mae'r weledigaeth yn amlinellu uchelgais gyfunol a strategol ar gyfer y Gogledd er mwyn datblygu seilwaith, sgiliau a chyflogaeth a thwf busnes.
1.4. Datblygodd y bwrdd Uchelgais Ddogfen Gynnig, a fabwysiadwyd ym mis Hydref 2018. Mae'r Ddogfen Gynnig yn amlinellu'r rhaglenni a'r prosiectau i'w hystyried ar gyfer eu cynnwys yn y Cynllun Twf.
1.5. Cymeradwyodd y Bwrdd Uchelgais "Cynllun Twf ar gyfer Gogledd Cymru - Cynllun Gweithredu" ym mis Mawrth 2019. Paratowyd y Cynllun yng nghyd-destun Gweledigaeth Twf Gogledd Cymru. Mae'r Cynllun Gweithredu yn cynnwys gweithgareddau lefel uchel a fydd yn cefnogi'r gwaith o gyflawni'r Cynllun Twf ynghyd â manylion am natur pob prosiect a ariennir drwy'r Cynllun Twf, eu deilliannau a'u buddion, a'r amserlen ddangosol a rhyng-ddibyniaethau'r prosiectau.
1.6. Cyflwynwyd y Cynllun Gweithredu, ynghyd â'r Achosion Busnes Amlinellol, yn ffurfiol i'r ddwy Lywodraeth ym mis Mawrth 2019. Mae adborth cydweithredol wedi'i dderbyn ar yr Achosion Busnes Amlinellol, a chynhaliwyd Sesiynau Her Gweinidogol ym mis Mehefin 2019.
2. Cynllun Twf Gogledd Cymru
2.1. Nod Cynllun Twf Gogledd Cymru yw cyflawni twf glân, cefnogi cynnydd o 5% yn y GVA, creu hyd at 4,000 o swyddi newydd a chynhyrchu buddsoddiad uniongyrchol gan y sector preifat o dros £500m.
2.2. Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi ymrwymo amlen ariannol o £240 miliwn i gyflawni saith Rhaglen a 14 Prosiect yn y rhanbarth.
2.3. Mae Cynllun Twf Gogledd Cymru yn cynnwys y Rhaglenni a ganlyn:
· Ynni Carbon Isel;
· Gweithgynhyrchu Uwch;
· Diwydiannau ar y Tir a Thwristiaeth;
· Tir ac Eiddo;
· Sgiliau a Chyflogaeth;
· Digidol;
· Trafnidiaeth Strategol.
2.4. Llofnododd y Bwrdd Uchelgais a'r ddwy Lywodraeth y Cytundeb Penawdau'r Telerau ym mis Tachwedd 2019. Mae Penawdau'r Telerau yn cadarnhau'r buddsoddiad cyffredinol o £240m gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU er mwyn cyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru.
3. Llywodraethu
3.1. Ffurfiwyd y Bwrdd Uchelgais fel Cyd-bwyllgor Statudol ar 1 Chwefror 2019.
3.2. Mae Cytundeb Llywodraethu 1 wedi'i ddatblygu fel y fframwaith cyfreithiol i sefydlu Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru fel Cyd-bwyllgor.
3.3. Mae'r model Llywodraethu wedi'i gyfyngu dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1974 ac nid yw'n ddelfrydol ar gyfer y ffordd y mae'r Bwrdd yn dymuno gweithredu. Er enghraifft, ni all y partneriaid nad ydynt yn awdurdodau lleol fod yn aelodau gyda phleidlais o Gyd-bwyllgor Gweithredol. Fodd bynnag, y model hwn yw'r un gorau sydd ar gael dan y ddeddfwriaeth gyfredol, ac mae ymrwymiad llawn i ymgysylltu â phartneriaid allweddol a gweithio mewn modd cynhwysol. Adlewyrchir hyn yn nhrefniadau'r Bwrdd i geisio cyflawni consensws cyn pleidleisio ar unrhyw gynnig.
3.4. Dros y misoedd nesaf, byddwn yn symud ymlaen i Gytundeb Llywodraethu 2 a fydd yn rhoi mwy o fanylion ac yn ymgorffori'r Cytundeb Penawdau'r Telerau gyda'r ddwy Lywodraeth. Bydd yn datblygu'r model llywodraethu cyfredol i fodloni anghenion cam gweithredu'r prosiect.
3.5. Mae gan y Bwrdd Uchelgais rym i sefydlu is-bwyllgorau. Mae Is-bwyllgor Trafnidiaeth yn ei le i gydlynu'r gwaith cynllunio a buddsoddi mewn trafnidiaeth ranbarthol, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.
3.6. Mae Bwrdd Cyflawni Busnes wedi'i sefydlu, sy'n gweithredu fel llais busnes a chyflogwyr yn y rhanbarth. Bydd ganddo rôl wrth herio a chynghori'r Bwrdd Uchelgais ar faterion yn ymwneud â'r Weledigaeth Twf a'r Cynllun Twf. Ar hyn o bryd, rydym yn recriwtio Cadeirydd i'r Bwrdd Cyflawni Busnes.
4. Swyddfa Rhaglen
4.1. Mae Swyddfa Rhaglen wedi'i sefydlu er mwyn bwrw ymlaen â datblygu a chyflawni'r Weledigaeth Twf a'r Cynllun Twf. Caiff y Swyddfa Rhaglen ei harwain gan Gyfarwyddwr Rhaglen, a fydd yn atebol i'r Bwrdd Uchelgais.
4.2. Bydd y Swyddfa Rhaglen fod yn hyblyg yn ei dyluniad a'i gweithrediad a bydd yn esblygu dros amser.
4.3. Mae pum penodiad wedi'u gwneud i'r Swyddfa Rhaglen, a bydd y cyfan yn eu swyddi erbyn mis Ionawr 2020. Mae'r rolau hyn yn cynnwys Cyfarwyddwr Rhaglen, Rheolwr Gweithrediadau, Rheolwr Rhaglen Digidol, Rheolwr Rhaglen Ynni a Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo.
4.4. Mae'r Bwrdd Uchelgais wedi cyflwyno cais ariannu i WEFO i ddatblygu Swyddfa Rhaglen drwy ddull Tîm Gogledd Cymru a fydd yn cyflawni'r Weledigaeth Twf.
5. Cyllid
5.1. Darperir cyllid ar gyfer y Cynllun Twf ar broffil ariannu gwastad dros gyfnod o 15 mlynedd. O ystyried y bydd y prosiectau'n cael eu cyflawni dros amserlen lawer byrrach na hyn i sicrhau'r effaith fwyaf i'r economi, mae angen rheoli'r llif arian. Mewn gwirionedd, mae'n bosib y byddai angen i'r Awdurdodau Lleol reoli'r llif arian cyflymach drwy fenthyca.
5.2. Mae'r Bwrdd Uchelgais yn ceisio peth hyblygrwydd yn y proffil ariannu, yn enwedig mewn perthynas â'r defnydd posib o NNDR uwch o'r prosiectau sydd wedi'u cynnwys yn y Cynllun Twf, fel ffordd o fantoli'r costau refeniw ychwanegol a fyddai, fel arall, yn cael effaith ar gyllidebau Awdurdodau Lleol. Byddai rhagor o hyblygrwydd i amrywio'r proffil ariannu gwastad hefyd yn help i fantoli'r baich ariannol.
6. Datblygu'r Achosion Busnes
6.1. Mae Achosion Busnes Amlinellol yn eu lle ar gyfer pob un o'r 14 prosiect.
6.2. Bellach, gan fod y Bwrdd Uchelgais wedi cytuno ar y Cytundeb Penawdau'r Telerau gyda'r ddwy lywodraeth, bydd angen i ni fwrw ymlaen gyda'r gwaith o ddatblygu Modelau Busnes Pum Achos ar gyfer y rhaglenni/prosiectau.
6.3. Trefnodd Llywodraeth Cymru hyfforddiant Gwell Achosion Busnes ar gyfer Swyddogion y Bwrdd Uchelgais. Mynychodd nifer o Swyddogion o'r holl bartneriaid yr hyfforddiant, gan gyflawni'r achrediad yn llwyddiannus.
6.4. Bydd y Rheolwyr Rhaglen yn arwain ar ddatblygu'r Achosion Busnes, gyda chefnogaeth gan Grŵp Sicrwydd Ansawdd.
6.5. Bydd yr amserlen i ddatblygu'r achosion busnes yn amrywio o brosiect i brosiect.
6.6. Caiff yr Achosion Busnes eu datblygu yn unol â Llyfr Gwyrdd Trysorlys EM a methodoleg Gwell Achosion Busnes. Caiff yr Achosion Busnes eu cymeradwyo gan y Llywodraeth i gadarnhau bod y Rhaglenni a'r Prosiectau'n hyfyw, yn rhoi gwerth am arian, yn gynaliadwy ac yn cydymffurfio â Chymorth Gwladwriaethol.
7. Materion yn codi o Ddatblygiadau y Cynllun Twf
7.1 Mae nifer o faterion wedi cael effaith ar gynnydd cyrraedd Penawdau’r Telerau ar cynllun yn ei gyfanrwydd. Gall nifer o wersi a ddysgwyd o brofiad Gogledd Cymru fod yn ddefnyddiol ar gyfer cynlluniau twf y dyfodol. Yn benodol, yr oedi hir i gyrraedd Penawdau’r Telerau tra roedd mwyafrif y materion pwysig wedi ei cytuno, a wedi gallu cael ei osgoi. Mae manylion rhai o’n profiadau all helpu i lunio rhaglenni’r dyfodol wedi ei nodi isod:
7.2 Eglurder ar y broses a’r drefn – Drwy gydol y cyfnod mae diffyg eglurder ar y broses ar drefn dylid ei ddilyn. Mae hyn wedi ei nodi drwy’r sylw mai y rhanbarth ddylai adnabod y prosiectau fydd yn cyfarch y strategaeth twf orau ayyb. Mae’r diffyg arweiniad wedi arwain at lawer o oedi, lle mae diffyg eglurder wedi arwain at oedi yn ddatblygiad prosiect(au). Rydym wedi gweld oedi yn sgil diffyg eglurder ar y broses o arwyddo dogfennau, diffyg eglurder ar y gofynion ar gyfer datblygu prosiect ac cymhlethdod trefniadau yn arafu’r rhaglen. Tra rydym yn deall natur unigryw Cynlluniau Twf er mwyn gallu ei teilwra i anghenion y rhanbarth, byddai cael amlinelliad o brosesau ac canllawiau ar gyfer datblygu ceisiadau yn cyflymu y broses o gymeradwyo.
7.3 Aliniad Strategaethau – Mae diffyg aliniad rhwng polisïau Llywodraeth rhwng San Steffan a Caerdydd wedi achosi problemau ar adegau. Er disgwylir dargyfeirio polisïau i raddau, mae’r sefyllfa a gymerir pan nad yw prosiectau’n cyd-fynd yn daclus a pholisi yn anghyson a’r bwriad i ddatblygu prosiectau sy’n cefnogi twf yn y rhanbarth. Byddai wedi bod yn ddefnyddiol gallu llywio datblygiad prosiectau i fodloni gofynion economaidd y rhanbarth, lle na fyddai hyn o bosibl yn cyd-fynd yn daclus â pholisi’r llywodraeth.
7.4 Lefelau Ariannu – Byddai eglurder ar lefel y cyllid oedd ar gael i gefnogi’r cynllun wedi bod yn ddefnyddiol ar y cychwyn. Gallai hyn fod wedi atal rhai disgwyliadau afrealistig o lefelau cyllid i rai prosiectau.
7.5 Disgwyliadau Achosion Busnes – Mae’r gofynion i ddatblygu achosion busnes manwl yn gamau cynnar y rhaglen yn golygu buddsoddiad anghymesur gan y rhanbarth, mae rhan ohono wedi bod yn ddi-angen. Rydym yn cydnabod yr angen i gael achosion busnes manwl i gefnogi’r achos buddsoddi terfynol, ond mae angen buddsoddiad sylweddol mewn datblygu prosiectau ymlaen llaw, gyda phosibilrwydd y gallai gwariant fod heb ei angen. Byddwn yn cefnogi yr angen i ddatblygu canllawiau, byddai hyn yn lleihau’r risg o wario adnoddau prin heb fod angen.